{"id":8601,"date":"2019-10-21T12:34:27","date_gmt":"2019-10-21T12:34:27","guid":{"rendered":"https:\/\/laweuro.com\/?p=8601"},"modified":"2019-11-01T19:23:42","modified_gmt":"2019-11-01T19:23:42","slug":"mesur-diogelwch-ar-gludiant-i-ddysgwyr-cymru-2011","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/laweuro.com\/?p=8601","title":{"rendered":"Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011"},"content":{"rendered":"<p>Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011<\/p>\n<p>2011 mccc 6<\/p>\n<p>Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y c\u00e2nt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu&#8217;r darpariaethau a ganlyn:\u2014<\/p>\n<p><strong>1 Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>\u201cDiogelwch ar gludiant i ddysgwyr<\/em><\/p>\n<p><strong>14A Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae&#8217;n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.<\/p>\n<p>(2) Rhaid i berson sy&#8217;n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o&#8217;r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.<\/p>\n<p>(3) Mae person sy&#8217;n methu \u00e2 chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o&#8217;i gollfarnu&#8217;n ddiannod, i ddirwy nad yw&#8217;n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.<\/p>\n<p>(4) Mae&#8217;n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.<\/p>\n<p>(5) Nid oes dim yn yr adran hon i&#8217;w ddehongli fel petai&#8217;n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy&#8217;n wahanol i&#8217;r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i&#8217;r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy&#8217;n uniongyrchol gymwysadwy.<\/p>\n<p>(6) Yn yr adran hon\u2014<\/p>\n<p>ystyr \u201cbws\u201d yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;<\/p>\n<p>ystyr \u201cdeddfiad\u201d yw unrhyw un o&#8217;r canlynol, pryd bynnag y&#8217;i pasiwyd neu y&#8217;i gwnaed\u2014<\/p>\n<p>(a) Deddf Seneddol;<\/p>\n<p>(b) is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;<\/p>\n<p>(c) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o&#8217;r fath;<\/p>\n<p>ystyr \u201cgwregys diogelwch\u201d yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i&#8217;r sawl sy&#8217;n ei wisgo os bydd damwain i&#8217;r cerbyd.\u201d.<\/p>\n<p><strong>2 Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>\u201cDiogelwch ar gludiant i ddysgwyr<\/em><\/p>\n<p><strong>14B Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn\u2014<\/p>\n<p>(a) ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;<\/p>\n<p>(b) ei gwneud yn ofynnol i berson sy&#8217;n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;<\/p>\n<p>(c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.<\/p>\n<p>(2) Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.\u201d.<\/p>\n<p><strong>3 Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14C Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau\u2014<\/p>\n<p>(a) ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy&#8217;n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;<\/p>\n<p>(b) darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;<\/p>\n<p>(c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.<\/p>\n<p>(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o&#8217;r canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) corff perthnasol;<\/p>\n<p>(b) person sy&#8217;n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.<\/p>\n<p>(3) Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na&#8217;i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy&#8217;n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.\u201d.<br \/>\n4Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr<\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14D Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o&#8217;r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.<\/p>\n<p>(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) \u2014<\/p>\n<p>(a) gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i&#8217;w gynnal;<\/p>\n<p>(b) ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;<\/p>\n<p>(c) rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;<\/p>\n<p>(d) rhagnodi pa mor aml y mae&#8217;n rhaid cynnal yr asesiadau.\u201d.<\/p>\n<p><strong>5 Hyfforddi gyrwyr<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14E Hyfforddi gyrwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy&#8217;n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.<\/p>\n<p>(2) Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.<\/p>\n<p>(3) Yn yr adran hon ystyr \u201chyfforddiant\u201d yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.\u201d.<\/p>\n<p><strong>6 Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14F Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy&#8217;n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.<\/p>\n<p>(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) \u2014<\/p>\n<p>(a) rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;<\/p>\n<p>(b) darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy&#8217;n goruchwylio dysgwyr.\u201d.<\/p>\n<p><strong>7 Cosbau sifil<\/strong><\/p>\n<p>(1) Ar \u00f4l adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14G Cosbau sifil<\/strong><\/p>\n<p>Mae i Atodlen A1 effaith.\u201d.<\/p>\n<p>(2) Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.<\/p>\n<p><strong>8 Awdurdod gorfodi<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14H Awdurdod gorfodi<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(2) Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(3) Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a ch\u00e2nt (ymhlith pethau eraill) \u2014<\/p>\n<p>(a) rhoi p\u0175er i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel \u201carolygydd\u201d) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,<\/p>\n<p>(b) gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy&#8217;n gymwys i&#8217;r awdurdod gorfodi, neu<\/p>\n<p>(c) darparu i&#8217;r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.<\/p>\n<p>(4) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(5) Yn yr adran hon mae \u201cdeddfiad\u201d yn cynnwys\u2014<\/p>\n<p>(a) deddfiad pryd bynnag y&#8217;i pasiwyd neu y&#8217;i gwnaed,<\/p>\n<p>(b) deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac<\/p>\n<p>(c) darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru) .\u201d.<\/p>\n<p><strong>9 P\u0175er mynediad<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14I P\u0175er mynediad<\/strong><\/p>\n<p>(1) Mae&#8217;r adran hon yn gymwys i\u2014<\/p>\n<p>(a) cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;<\/p>\n<p>(b) cerbyd neu fangre sy&#8217;n dod o fewn is-adran (2) .<\/p>\n<p>(2) Cerbyd neu fangre sy&#8217;n dod o fewn yr is-adran hon yw\u2014<\/p>\n<p>(a) y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad \u00e2 darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu<\/p>\n<p>(b) y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.<\/p>\n<p>(3) Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol\u2014<\/p>\n<p>(a) cadw cerbyd yn gaeth;<\/p>\n<p>(b) mynd i gerbyd neu fangre.<\/p>\n<p>(4) Ond nid yw&#8217;r p\u0175er yn is-adran (3) yn cynnwys y p\u0175er i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu&#8217;n bennaf yn annedd breifat.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i arolygydd sy&#8217;n arfer unrhyw b\u0175er a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy&#8217;n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.\u201d.<\/p>\n<p><strong>10 P\u0175er arolygu<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14J P\u0175er arolygu<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff arolygydd sy&#8217;n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I\u2014<\/p>\n<p>(a) arolygu&#8217;r cerbyd neu&#8217;r fangre;<\/p>\n<p>(b) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd cop\u00efau ohonynt a mynd \u00e2 hwy o&#8217;r cerbyd neu&#8217;r fangre;<\/p>\n<p>(c) arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o&#8217;r cerbyd neu&#8217;r fangre.<\/p>\n<p>(2) Mae&#8217;r p\u0175er yn is-adran (1) (b) yn cynnwys\u2014<\/p>\n<p>(a) p\u0175er i&#8217;w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy&#8217;n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu&#8217;r fangre neu sy&#8217;n gyfrifol am y dogfennau neu&#8217;r cofnodion hynny i&#8217;w dangos hwy, a<\/p>\n<p>(b) o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, p\u0175er i&#8217;w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd \u00e2 hwy i ffwrdd.<\/p>\n<p>(3) Nid yw&#8217;r p\u0175er yn is-adran (1) (b) yn cynnwys p\u0175er\u2014<\/p>\n<p>(a) sy&#8217;n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad \u00e2 hwy mewn achos cyfreithiol, neu<\/p>\n<p>(b) i gymryd cop\u00efau o&#8217;r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd \u00e2 hwy i ffwrdd.<\/p>\n<p>(4) Mewn cysylltiad ag arolygu&#8217;r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd\u2014<\/p>\n<p>(a) mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu&#8217;r deunydd, a<\/p>\n<p>(b) ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.<\/p>\n<p>(5) Mae person o fewn yr is-adran hon\u2014<\/p>\n<p>(a) os y person hwnnw yw&#8217;r person sy&#8217;n defnyddio&#8217;r cyfrifiadur neu a&#8217;i defnyddiodd neu&#8217;r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu<\/p>\n<p>(b) os yw&#8217;r person hwnnw yn berson sydd \u00e2 gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu&#8217;r deunydd, neu&#8217;n ymwneud fel arall \u00e2&#8217;u gweithrediad.<\/p>\n<p>(6) Caiff arolygydd sy&#8217;n cadw cerbyd yn gaeth neu&#8217;n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy&#8217;n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu&#8217;r adran hon.<\/p>\n<p>(7) Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol\u2014<\/p>\n<p>(a) yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw b\u0175er o dan adran 14I neu&#8217;r adran hon, neu<\/p>\n<p>(b) yn methu \u00e2 chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,<\/p>\n<p>yn euog o dramgwydd ac yn agored, o&#8217;i gollfarnu&#8217;n ddiannod, i ddirwy nad yw&#8217;n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.\u201d.<\/p>\n<p><strong>11 Y p\u0175er i fynnu gwybodaeth<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14K Y p\u0175er i fynnu gwybodaeth<\/strong><\/p>\n<p>(1) Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill\u2014<\/p>\n<p>(a) sy&#8217;n ymwneud \u00e2 darparu cludiant i ddysgwyr, a<\/p>\n<p>(b) sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu&#8217;n hwylus i&#8217;w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(2) Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw\u2014<\/p>\n<p>(a) corff perthnasol;<\/p>\n<p>(b) unrhyw berson sy&#8217;n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.<\/p>\n<p>(3) Mae&#8217;r p\u0175er yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas \u00e2 gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y p\u0175er i&#8217;w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd \u00e2 hwy i ffwrdd.<\/p>\n<p>(4) Nid yw&#8217;r p\u0175er yn is-adran (1) yn cynnwys p\u0175er i&#8217;w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad \u00e2 hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.<\/p>\n<p>(5) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu \u00e2 chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o&#8217;i gollfarnu&#8217;n ddiannod, i ddirwy nad yw&#8217;n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.\u201d.<\/p>\n<p><strong>12 Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14L Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid<\/strong><\/p>\n<p>(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o&#8217;r corff corfforaethol, neu i&#8217;w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o&#8217;r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal \u00e2&#8217;r corff corfforaethol ei hun.<\/p>\n<p>(2) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i&#8217;w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal \u00e2&#8217;r bartneriaeth ei hun.\u201d.<br \/>\n13Rheoliadau: ymgynghori<\/p>\n<p>Ar \u00f4l 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14M Rheoliadau: ymgynghori<\/strong><\/p>\n<p>Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori \u00e2 phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori \u00e2 hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.\u201d.<\/p>\n<p><strong>14 Dehongli<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder\u2014<\/p>\n<p><strong>\u201c14N Dehongli adrannau 14A i 14K<\/strong><\/p>\n<p>(1) Mae&#8217;r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.<\/p>\n<p>(2) Mae pob un o&#8217;r canlynol yn \u201cgorff perthnasol\u201d\u2014<\/p>\n<p>(a) awdurdod lleol;<\/p>\n<p>(b) corff llywodraethu ysgol a gynhelir.<\/p>\n<p>(3) Ystyr \u201ccludiant i ddysgwyr\u201d yw cludiant i&#8217;w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw&#8217;n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o&#8217;r un sefydliad.<\/p>\n<p>(4) Nid yw&#8217;r weithred o wneud unrhyw un o&#8217;r trefniadau a ganlyn i&#8217;w hystyried, ynddi&#8217;i hun, fel petai&#8217;n darparu cludiant i ddysgwyr neu&#8217;n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.<\/p>\n<p>(5) Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw\u2014<\/p>\n<p>(a) trefniadau i dalu&#8217;r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;<\/p>\n<p>(b) trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad \u00e2 defnyddio cludiant.<\/p>\n<p>(6) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o \u201cond nid yw&#8217;n cynnwys\u201d hyd at ddiwedd yr is-adran.\u201d.<\/p>\n<p><strong>15 Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau<\/strong><\/p>\n<p>(1) Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.<\/p>\n<p>(2) Yn is-adran (2) \u2014<\/p>\n<p>(a) ym mharagraff (a) , ar \u00f4l \u201cneu\u201d rhodder \u201cddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu\u201d;<\/p>\n<p>(b) ar \u00f4l paragraff (a) mewnosoder\u2014<\/p>\n<p>\u201c (aa) i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;\u201d;<\/p>\n<p>(c) ym mharagraff (b) , ar \u00f4l \u201cachosion\u201d mewnosoder \u201cneu ddosbarthau ar achos\u201d.<\/p>\n<p>(3) Yn is-adran (3) , hepgorer \u201cadran 7 neu adran 8\u201d a rhodder \u201c7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1\u201d.<\/p>\n<p>(4) Ar \u00f4l is-adran (4) , mewnosoder\u2014<\/p>\n<p>\u201c (4A) Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae&#8217;r cyfeiriad at \u201cy Mesur hwn\u201d yn is-adran (4) i&#8217;w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.\u201d.<\/p>\n<p>(5) Yn is-adran (7) \u2014<\/p>\n<p>(a) ym mharagraff (d) hepgorer \u201cneu\u201d;<\/p>\n<p>(b) ar \u00f4l paragraff (d) mewnosoder\u2014<\/p>\n<p>\u201c (da) rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu<\/p>\n<p>(db) gorchymyn o dan adran 14N (6) .\u201d.<\/p>\n<p><strong>16 Cychwyn<\/strong><\/p>\n<p>(1) Mae adran 1 yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.<\/p>\n<p>(2) Daw gweddill darpariaethau&#8217;r Mesur hwn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy&#8217;n dechrau ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.<\/p>\n<p><strong>17 Enw byr<\/strong><\/p>\n<p>Enw&#8217;r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.<\/p>\n<p style=\"text-align: right;\">(a gyflwynwyd gan adran 7)<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">ATODLEN<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">COSBAU SIFILl<\/p>\n<p>Diwygiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008<\/p>\n<p>Ar \u00f4l adran 29 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder\u2014<\/p>\n<p style=\"text-align: right;\">(a gyflwynwyd gan adran 14G)<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">\u201cATODLEN A1<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">COSBAU SIFIL<\/p>\n<p>Cosbau sifil<\/p>\n<p>1 (1) Caiff rheoliadau ddarparu ynghylch cosbau sifil am dorri rheoliadau diogelwch.<\/p>\n<p>(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau diogelwch os yw&#8217;r person, o dan amgylchiadau a bennir\u2014<\/p>\n<p>(a) yn methu \u00e2 chydymffurfio \u00e2 gofyniad a wneir gan neu o dan reoliadau diogelwch, neu<\/p>\n<p>(b) yn rhwystro neu&#8217;n methu \u00e2 chynorthwyo awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(3) Yn yr Atodlen hon\u2014<\/p>\n<p>ystyr \u201ccosb sifil\u201d yw\u2014<\/p>\n<p>(a) cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 2) ,<br \/>\n(b) gofyniad yn \u00f4l disgresiwn (gweler paragraff 4) ,<br \/>\n(c) hysbysiad stop (gweler paragraff 7) , neu<br \/>\n(d) ymgymeriad gorfodi (gweler paragraff 11) ;<\/p>\n<p>ystyr \u201crheoliadau diogelwch\u201d yw rheoliadau a wneir o dan adran 14B neu 14C.<\/p>\n<p>Cosbau ariannol penodedig<\/p>\n<p>2 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy&#8217;n rhoi&#8217;r p\u0175er i awdurdod gorfodi i osod drwy hysbysiad gosb ariannol benodedig ar berson sy&#8217;n torri rheoliadau diogelwch.<\/p>\n<p>(2) Ni chaiff y rheoliadau roi&#8217;r cyfryw b\u0175er ond mewn perthynas ag achos pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn \u00f4l pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.<\/p>\n<p>(3) At ddibenion yr Atodlen hon, gofyniad i dalu cosb i awdurdod gorfodi a&#8217;r gosb honno yn un o swm a bennir neu y penderfynir arno yn unol \u00e2&#8217;r rheoliadau yw \u201ccosb ariannol benodedig\u201d.<\/p>\n<p>(4) Ni chaiff y rheoliadau ddarparu am osod cosb ariannol benodedig uwch na \u00a35,000.<br \/>\nCosbau ariannol penodedig: y weithdrefn<\/p>\n<p>3 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau\u2014<\/p>\n<p>(a) pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o&#8217;r hyn a fwriedir (\u201chysbysiad o fwriad\u201d) i&#8217;r person hwnnw a&#8217;r hysbysiad hwnnw&#8217;n cydymffurfio ag is-baragraff (2) ,<\/p>\n<p>(b) bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i&#8217;r person ei ryddhau ei hun o&#8217;i atebolrwydd i dalu&#8217;r gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae&#8217;n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu gyfwerth \u00e2&#8217;r swm hwnnw) ,<\/p>\n<p>(c) os nad yw&#8217;r person yn ei ryddhau ei hun o&#8217;r atebolrwydd yn y ffordd hon\u2014<\/p>\n<p>(i) y caiff y person gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i&#8217;r awdurdod gorfodi mewn perthynas \u00e2&#8217;r bwriad i osod cosb ariannol benodedig, a<\/p>\n<p>(ii) ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, bod rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi benderfynu p&#8217;un ai gosod y gosb ariannol benodedig ai peidio,<\/p>\n<p>(d) pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy&#8217;n ei gosod (\u201cyr hysbysiad terfynol\u201d) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4) , ac<\/p>\n<p>(e) bod y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i&#8217;w osod.<\/p>\n<p>(2) I gydymffurfio \u00e2&#8217;r is-baragraff hwn, rhaid i&#8217;r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,<\/p>\n<p>(b) effaith talu&#8217;r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b) ,<\/p>\n<p>(c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau,<\/p>\n<p>(d) yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig,<\/p>\n<p>(e) y cyfnod pryd y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o&#8217;i atebolrwydd i dalu&#8217;r gosb ariannol benodedig, nas caniateir i fod yn fwy na&#8217;r cyfnod o 28 diwrnod sy&#8217;n dechrau ar y diwrnod pryd y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, ac<\/p>\n<p>(f) y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na&#8217;r 28 diwrnod sy&#8217;n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.<\/p>\n<p>(3) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (c) (ii) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i&#8217;r awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.<\/p>\n<p>(4) I gydymffurfio \u00e2&#8217;r is-baragraff hwn rhaid i&#8217;r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (d) gynnwys gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) y seiliau dros osod y gosb,<\/p>\n<p>(b) sut y caniateir i&#8217;r taliad gael ei wneud,<\/p>\n<p>(c) y cyfnod pryd y mae&#8217;n rhaid gwneud y taliad,<\/p>\n<p>(d) unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,<\/p>\n<p>(e) hawliau apelio, ac<\/p>\n<p>(f) canlyniadau peidio \u00e2 thalu.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;<\/p>\n<p>(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;<\/p>\n<p>(c) bod y penderfyniad yn afresymol.<br \/>\nGofynion yn \u00f4l disgresiwn<\/p>\n<p>4 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy&#8217;n rhoi&#8217;r p\u0175er i awdurdod gorfodi osod, drwy hysbysiad, un neu ragor o ofynion yn \u00f4l disgresiwn ar berson sy&#8217;n torri rheoliadau diogelwch.<\/p>\n<p>(2) Ni chaiff y rheoliadau roi&#8217;r cyfryw b\u0175er ond mewn perthynas ag achos pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn \u00f4l pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.<\/p>\n<p>(3) At ddibenion yr Atodlen hon ystyr \u201cgofyniad yn \u00f4l disgresiwn\u201d yw\u2014<\/p>\n<p>(a) gofyniad i dalu cosb ariannol i awdurdod gorfodi o swm y caniateir i&#8217;r awdurdod gorfodi ei benderfynu, neu<\/p>\n<p>(b) gofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan awdurdod gorfodi, cyn pen cyfnod a bennir gan yr awdurdod gorfodi, er mwyn sicrhau nad yw&#8217;r toriad yn parhau neu&#8217;n digwydd eto.<\/p>\n<p>(4) Yn yr Atodlen hon\u2014<\/p>\n<p>ystyr \u201ccosb ariannol amrywiadwy\u201d yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) (a) ;<\/p>\n<p>ystyr \u201cgofyniad heb fod yn ariannol yn \u00f4l disgresiwn\u201d yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) (b) .<\/p>\n<p>(5) Rhaid i&#8217;r rheoliadau, mewn perthynas \u00e2 phob math o doriad o reoliadau diogelwch y caniateir gosod cosb amrywiadwy amdano\u2014<\/p>\n<p>(a) pennu&#8217;r gosb uchaf y caniateir ei gosod am doriad o&#8217;r math hwnnw, neu<\/p>\n<p>(b) darparu am benderfynu&#8217;r gosb uchaf honno yn unol \u00e2&#8217;r rheoliadau.<\/p>\n<p>(6) Ni chaiff y rheoliadau ganiat\u00e1u gosod gofynion yn \u00f4l disgresiwn ar berson ar ragor nag un achlysur mewn perthynas \u00e2&#8217;r un weithred neu anwaith.<br \/>\nGofynion yn \u00f4l disgresiwn: y weithdrefn<\/p>\n<p>5 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau\u2014<\/p>\n<p>(a) pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod gofyniad yn \u00f4l disgresiwn ar berson, bod rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o&#8217;r hyn a fwriedir (\u201chysbysiad o fwriad\u201d) i&#8217;r person hwnnw a&#8217;r hysbysiad hwnnw yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) ,<\/p>\n<p>(b) y caiff y person hwnnw gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i&#8217;r awdurdod gorfodi mewn perthynas \u00e2&#8217;r bwriad i osod gofyniad yn \u00f4l disgresiwn,<\/p>\n<p>(c) ar \u00f4l diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno&#8217;r cyfryw sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi benderfynu p&#8217;un ai\u2014<\/p>\n<p>(i) i osod y gofyniad yn \u00f4l disgresiwn, gyda neu heb addasiadau, neu<\/p>\n<p>(ii) i osod unrhyw ofyniad arall yn \u00f4l disgresiwn y mae gan yr awdurdod gorfodi y p\u0175er i&#8217;w osod o dan baragraff 4,<\/p>\n<p>(d) pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod gofyniad yn \u00f4l disgresiwn, bod yr hysbysiad sy&#8217;n ei osod (yr \u201chysbysiad terfynol\u201d) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4) , ac<\/p>\n<p>(e) bod y person y gosodir gofyniad yn \u00f4l disgresiwn arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i&#8217;w osod.<\/p>\n<p>(2) I gydymffurfio \u00e2&#8217;r is-baragraff hwn, rhaid i&#8217;r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) y seiliau dros y bwriad i osod y gofyniad yn \u00f4l disgresiwn;<\/p>\n<p>(c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau;<\/p>\n<p>(c) yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gofyniad yn \u00f4l disgresiwn;<\/p>\n<p>(d) y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau ac gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na&#8217;r 28 diwrnod sy&#8217;n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.<\/p>\n<p>(3) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (c) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i&#8217;r awdurdod gorfodi benderfynu gosod gofyniad yn \u00f4l disgresiwn.<\/p>\n<p>(4) I gydymffurfio \u00e2&#8217;r is-baragraff hwn rhaid i&#8217;r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (d) gynnwys gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) y seiliau dros osod y gofyniad yn \u00f4l disgresiwn,<\/p>\n<p>(b) pan fo&#8217;r gofyniad yn \u00f4l disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy\u2014<\/p>\n<p>(i) sut y caniateir i&#8217;r taliad gael ei wneud,<\/p>\n<p>(ii) y cyfnod pryd y mae&#8217;n rhaid gwneud y taliad, a<\/p>\n<p>(iii) unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,<\/p>\n<p>(c) hawliau apelio, a<\/p>\n<p>(d) canlyniadau peidio \u00e2 chydymffurfio.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;<\/p>\n<p>(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;<\/p>\n<p>(c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;<\/p>\n<p>(d) yn achos gofyniad heb fod yn ariannol yn \u00f4l disgresiwn, bod natur y gofyniad yn afresymol;<\/p>\n<p>(e) bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.<br \/>\nGofynion yn \u00f4l disgresiwn: gorfodi<\/p>\n<p>6 (1) Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i berson dalu cosb ariannol (\u201ccosb am beidio \u00e2 chydymffurfio\u201d) i awdurdod gorfodi os yw&#8217;r person yn methu \u00e2 chydymffurfio \u00e2 gofyniad heb fod yn ariannol yn \u00f4l disgresiwn a osodir ar y person.<\/p>\n<p>(2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1) \u2014<\/p>\n<p>(a) pennu swm y gosb am beidio \u00e2 chydymffurfio neu ddarparu i&#8217;r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol \u00e2&#8217;r rheoliadau, neu<\/p>\n<p>(b) darparu i&#8217;r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gorfodi neu drwy rhyw ffordd arall.<\/p>\n<p>(3) Os yw rheoliadau yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2) (b) , rhaid iddynt, mewn perthynas \u00e2 phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio \u00e2 chydymffurfio\u2014<\/p>\n<p>(a) pennu&#8217;r gosb uchaf y caniateir ei gosod am fethiant o&#8217;r math hwnnw, neu<\/p>\n<p>(b) darparu am benderfynu&#8217;r gosb uchaf honno yn unol \u00e2&#8217;r rheoliadau.<\/p>\n<p>(4) Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau \u2014<\/p>\n<p>(a) bod y gosb am beidio \u00e2 chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi, a<\/p>\n<p>(b) bod y person y gosodir hi arno yn cael apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol \u00e2 pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys y canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y penderfyniad i gyflwyno&#8217;r hysbysiad wedi ei seilio ar gamgymeriad ffeithiol;<\/p>\n<p>(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;<\/p>\n<p>(c) bod y penderfyniad yn annheg neu&#8217;n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan benderfynwyd swm y gosb am beidio \u00e2 chydymffurfio gan yr awdurdod gorfodi, bod y swm yn afresymol) .<br \/>\nHysbysiadau stop<\/p>\n<p>7 (1) Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi y p\u0175er i gyflwyno hysbysiad stop i berson.<\/p>\n<p>(2) At ddibenion yr Atodlen hon \u201chysbysiad stop\u201d yw hysbysiad sy&#8217;n atal person rhag cyflawni gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes i&#8217;r person gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.<\/p>\n<p>(3) Ni chaiff darpariaeth o dan y paragraff hwn ond rhoi&#8217;r cyfryw b\u0175er mewn perthynas ag achos sy&#8217;n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5) .<\/p>\n<p>(4) Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo\u2014<\/p>\n<p>(a) y person yn cyflawni&#8217;r gweithgaredd,<\/p>\n<p>(b) yr awdurdod gorfodi yn credu&#8217;n rhesymol bod y gweithgaredd fel y&#8217;i cyflawnir gan y person hwnnw yn achosi, neu&#8217;n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac<\/p>\n<p>(c) yr awdurdod gorfodi yn credu bod y gweithgaredd fel y&#8217;i cyflawnir gan y person hwnnw yn cynnwys neu&#8217;n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau a wneir o dan adran 14B gan y person hwnnw.<\/p>\n<p>(5) Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi yn credu&#8217;n rhesymol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y person yn debygol o gyflawni&#8217;r gweithgaredd,<\/p>\n<p>(b) y bydd y gweithgaredd, o&#8217;i gyflawni yn y ffordd y mae&#8217;r person hwnnw yn debygol o&#8217;i gyflawni, yn achosi, neu&#8217;n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac<\/p>\n<p>(c) y bydd y gweithgaredd, o&#8217;i gyflawni yn y ffordd y mae&#8217;r person hwnnw yn debygol o&#8217;i gyflawni yn cynnwys neu&#8217;n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau o dan adran 14B gan y person hwnnw.<\/p>\n<p>(6) Rhaid i&#8217;r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau&#8217;r niwed neu&#8217;r risg o niwed y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) (b) neu (5) (b) .<br \/>\nHysbysiadau stop: y weithdrefn<\/p>\n<p>8 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sicrhau&#8217;r canlyniadau yn is-baragraff (2) mewn achos pan fo hysbysiad stop yn cael ei gyflwyno.<\/p>\n<p>(2) Dyma&#8217;r canlyniadau hynny\u2014<\/p>\n<p>(a) rhaid i&#8217;r hysbysiad stop gydymffurfio ag is-baragraff (3) ,<\/p>\n<p>(b) caiff y person y cyflwynir ef iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i&#8217;w gyflwyno,<\/p>\n<p>(c) pan fo&#8217;r awdurdod gorfodi, ar \u00f4l i&#8217;r hysbysiad gael ei gyflwyno, yn fodlon bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i ardystio i&#8217;r perwyl hwnnw (\u201ctystysgrif gwblhau\u201d) ,<\/p>\n<p>(d) mae&#8217;r hysbysiad yn peidio \u00e2 bod yn effeithiol wrth i dystysgrif gwblhau gael ei dyroddi,<\/p>\n<p>(e) caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo wneud cais ar unrhyw bryd am dystysgrif gwblhau,<\/p>\n<p>(f) rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi benderfynu p&#8217;un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau ai peidio a hynny cyn pen 14 o ddiwrnodau ar \u00f4l i&#8217;r cyfryw gais gael ei wneud, ac<\/p>\n<p>(g) caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio \u00e2 dyroddi tystysgrif gwblhau.<\/p>\n<p>(3) I gydymffurfio \u00e2&#8217;r is-baragraff hwn rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) y seiliau dros gyflwyno&#8217;r hysbysiad,<\/p>\n<p>(b) hawliau apelio, ac<\/p>\n<p>(c) canlyniadau peidio \u00e2 chydymffurfio.<\/p>\n<p>(4) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2) (b) sicrhau bod y seiliau y caiff person apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop yn cynnwys y canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;<\/p>\n<p>(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;<\/p>\n<p>(c) bod y penderfyniad yn afresymol;<\/p>\n<p>(d) bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;<\/p>\n<p>(e) nad yw&#8217;r person wedi torri&#8217;r rheoliadau ac ni fyddai wedi eu torri pe na bai&#8217;r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;<\/p>\n<p>(f) unrhyw seiliau eraill a bennir.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2) (g) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i beidio \u00e2 dyroddi tystysgrif gwblhau yn cynnwys y canlynol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;<\/p>\n<p>(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;<\/p>\n<p>(c) bod y penderfyniad yn annheg neu&#8217;n afresymol.<br \/>\nHysbysiadau stop: digolledu<\/p>\n<p>9 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy&#8217;n rhoi p\u0175er i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop i berson gynnwys darpariaeth i&#8217;r awdurdod gorfodi ddigolledu&#8217;r person am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno&#8217;r hysbysiad.<\/p>\n<p>(2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1) ddarparu am ddigollediad\u2014<\/p>\n<p>(a) mewn achosion rhagnodedig yn unig;<\/p>\n<p>(b) mewn perthynas \u00e2 disgrifiadau rhagnodedig o golled yn unig.<\/p>\n<p>(3) Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau bod y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo yn gallu apelio yn erbyn\u2014<\/p>\n<p>(a) penderfyniad gan y rheoleiddiwr i beidio \u00e2 dyfarnu digollediad, neu<\/p>\n<p>(b) penderfyniad gan y rheoleiddiwr ar swm y digollediad.<br \/>\nHysbysiadau stop: gorfodi<\/p>\n<p>10 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy&#8217;n rhoi p\u0175er i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop ddarparu, pan na fo person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn cydymffurfio ag ef, bod y person yn euog o dramgwydd ac yn agored\u2014<\/p>\n<p>(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw&#8217;n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu garchar am gyfnod nad yw&#8217;n hwy na deuddeng mis, neu&#8217;r ddau, neu<\/p>\n<p>(b) o&#8217;i gollfarnu ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw&#8217;n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu&#8217;r ddau.<\/p>\n<p>(2) Wrth gymhwyso&#8217;r adran hon mewn perthynas \u00e2 thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 154 (1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae&#8217;r cyfeiriad yn is-baragraff (1) (a) at ddeuddeng mis i&#8217;w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.<br \/>\nYmgymeriadau gorfodi<\/p>\n<p>11 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth\u2014<\/p>\n<p>(a) i alluogi awdurdod gorfodi i dderbyn ymgymeriad gorfodi oddi wrth berson mewn achos pan fo gan yr awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi mynd yn groes i gyfyngiad neu ofyniad a osodwyd mewn rheoliadau diogelwch, a<\/p>\n<p>(b) bod i dderbyn yr ymgymeriad y canlyniadau yn is-baragraff (4) .<\/p>\n<p>(2) At ddibenion y Rhan hon, mae \u201cymgymeriad gorfodi\u201d yn ymgymeriad i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad yn cyfnod a bennir felly.<\/p>\n<p>(3) Rhaid i&#8217;r camau a bennir mewn ymgymeriad gorfodi fod\u2014<\/p>\n<p>(a) yn gamau i sicrhau nad yw&#8217;r weithred o fynd yn groes i&#8217;r cyfyngiad neu&#8217;r gofyniad yn parhau nac yn digwydd eto, neu<\/p>\n<p>(b) yn gamau o ddisgrifiad rhagnodedig.<\/p>\n<p>(4) Y canlyniadau yn yr is-baragraff hwn yw, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu \u00e2 chydymffurfio \u00e2&#8217;r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono\u2014<\/p>\n<p>(a) ni chaniateir i&#8217;r person hwnnw gael ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliadau diogelwch mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r weithred neu&#8217;r anwaith y mae&#8217;r ymgymeriad yn ymwneud \u00e2 hi neu ag ef,<\/p>\n<p>(b) ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw gosb ariannol benodedig ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y p\u0175er i&#8217;w gosod yn rhinwedd paragraff 2 mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r weithred honno neu&#8217;r anwaith hwnnw, ac<\/p>\n<p>(c) ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw ofyniad yn \u00f4l disgresiwn ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y p\u0175er i&#8217;w osod yn rhinwedd paragraff 4 mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r weithred honno neu&#8217;r anwaith hwnnw.<\/p>\n<p>(5) Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth\u2014<\/p>\n<p>(a) am y weithdrefn i wneud ymgymeriad;<\/p>\n<p>(b) am delerau ymgymeriad;<\/p>\n<p>(c) am gyhoeddi ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;<\/p>\n<p>(d) am amrywio ymgymeriad;<\/p>\n<p>(e) am amgylchiadau pryd y caniateir ystyried bod person wedi cydymffurfio ag ymgymeriad;<\/p>\n<p>(f) am fonitro cydymffurfiaeth ag ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;<\/p>\n<p>(g) am ardystio gan awdurdod gorfodi y bu cydymffurfio ag ymgymeriad;<\/p>\n<p>(h) am apelau yn erbyn gwrthod rhoi&#8217;r cyfryw ardystiad;<\/p>\n<p>(i) mewn achos pan fo person wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas \u00e2&#8217;r ymgymeriad, am i&#8217;r person hwnnw gael ei ystyried yn un nad yw wedi cydymffurfio ag ef;<\/p>\n<p>(j) mewn achos pan fo person wedi cydymffurfio yn rhannol ond ddim yn llawn ag ymgymeriad, i&#8217;r gydymffurfiaeth rannol gael ei chymryd i ystyriaeth wrth osod unrhyw gosb droseddol neu gosb arall ar y person;<\/p>\n<p>(k) at ddibenion galluogi cychwyn achos troseddol yn erbyn person mewn cysylltiad \u00e2 mynd yn groes i&#8217;r gofyniad neu&#8217;r cyfyngiad os digwydd i ymgymeriad gael ei dorri neu i ran ohono gael ei thorri;<\/p>\n<p>(l) i estyn unrhyw gyfnod pryd y caniateir cychwyn yr achos hwnnw ynddo.<br \/>\nCyfuno cosbau<\/p>\n<p>12 Ni chaniateir gwneud darpariaeth o dan y paragraffau a bennir mewn cofnod yng ngholofn 1 o&#8217;r tabl a ganlyn mewn perthynas \u00e2&#8217;r un math o doriad o reolau diogelwch oni bai bod yr amodau cyntaf a&#8217;r ail amodau a roddir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 yn cael eu bodloni.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">TABL<\/p>\n<table style=\"border-collapse: collapse; width: 100%;\">\n<tbody>\n<tr>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Colofn 1<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Colofn 2<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Colofn3<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Paragraffau o&#8217;r Atodlen hon<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Yr Amod Cyntaf<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Yr Ail Amod<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Paragraffau 2 a 4<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3 (1) (a) i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo gofyniad yn \u00f4l disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad.<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 (1) (a) i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo\u2014<br \/>\n(a) cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad, neu<br \/>\n(b) y person wedi ei ryddhau ei hun o&#8217;i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas \u00e2&#8217;r toriad yn unol \u00e2 pharagraff 3 (1) (b) .<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Paragraffau 2 a 7<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3 (1) (a) i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad.<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo\u2014<br \/>\n(a) cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad, neu<br \/>\n(b) y person wedi ei ryddhau ei hun o&#8217;i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas \u00e2&#8217;r toriad yn unol \u00e2 pharagraff 3 (1) (b) .<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Paragraffau 4 a 7<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 (1) (a) i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad.<\/td>\n<td style=\"width: 33.3333%;\">Rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas \u00e2 thoriad pan fo gofyniad yn \u00f4l disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas \u00e2&#8217;r un toriad.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>Cosbau ariannol<\/p>\n<p>13 (1) Os yw&#8217;r rheoliadau yn rhoi p\u0175er i awdurdod gorfodi i&#8217;w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio \u00e2 chydymffurfio o dan baragraff 6 (1) , c\u00e2nt gynnwys darpariaeth\u2014<\/p>\n<p>(a) am ddisgowntiau talu&#8217;n gynnar;<\/p>\n<p>(b) am dalu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu&#8217;r gosb yn hwyr, a chyfanswm y llog hwnnw neu&#8217;r cosbau ariannol eraill hynny heb fod yn fwy na swm y gosb honno;<\/p>\n<p>(c) am orfodi&#8217;r gosb.<\/p>\n<p>(2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1) (c) gynnwys\u2014<\/p>\n<p>(a) darpariaeth i&#8217;r awdurdod gorfodi adennill y gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu&#8217;n hwyr, fel dyled sifil;<\/p>\n<p>(b) darpariaeth i&#8217;r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu&#8217;n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel petai&#8217;n daladwy o dan orchymyn llys.<br \/>\nAdennill costau<\/p>\n<p>14 (1) Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn \u00f4l disgresiwn arno dalu&#8217;r costau yr aeth yr awdurdod gorfodi iddynt mewn perthynas \u00e2 gosod y gofyniad yn \u00f4l disgresiwn hyd at yr amser y gosodwyd ef.<\/p>\n<p>(2) Yn is-baragraff (1) , mae&#8217;r cyfeiriad at gostau yn cynnwys yn (ymhlith pethau eraill) \u2014<\/p>\n<p>(a) costau ymchwilio;<\/p>\n<p>(b) costau gweinyddu;<\/p>\n<p>(c) costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) .<\/p>\n<p>(3) Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pryd y cyflwynir hysbysiad sy&#8217;n gwneud talu costau yn ofynnol\u2014<\/p>\n<p>(a) bod yr hysbysiad yn pennu&#8217;r swm sydd i&#8217;w dalu;<\/p>\n<p>(b) y gellir ei gwneud yn ofynnol i&#8217;r awdurdod gorfodi ddarparu dadansoddiad manwl o&#8217;r swm hwnnw;<\/p>\n<p>(c) nad yw&#8217;r person y mae&#8217;n ofynnol iddo dalu costau yn atebol am dalu unrhyw gostau a ddangosir gan y person fel rhai yr aethpwyd iddynt yn ddiangen;<\/p>\n<p>(d) bod y person y mae&#8217;n ofynnol iddo dalu costau yn cael apelio yn erbyn\u2014<\/p>\n<p>(i) penderfyniad yr awdurdod gorfodi i osod y gofyniad i dalu costau;<\/p>\n<p>(ii) penderfyniad yr awdurdod gorfodi am swm y costau hynny.<\/p>\n<p>(4) Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 13 (1) (b) ac (c) a (2) .<\/p>\n<p>(5) Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau ei bod yn ofynnol i&#8217;r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am sut y bydd yr awdurdod gorfodi yn arfer y p\u0175er a roddir gan y ddarpariaeth.<br \/>\nApelau<\/p>\n<p>15 (1) Ni chaiff rheoliadau ddarparu am apelio ac eithrio i\u2014<\/p>\n<p>(a) y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu<\/p>\n<p>(b) tribiwnlys arall a gr\u00ebwyd o dan ddeddfiad (o fewn ystyr adran 14H (5) ) .<\/p>\n<p>(2) Yn is-baragraff (1) (b) nid yw \u201ctribiwnlys\u201d yn cynnwys llys barn arferol.<\/p>\n<p>(3) Os yw&#8217;r rheoliadau yn darparu am ap\u00eal mewn perthynas \u00e2 gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyniad unrhyw hysbysiad, c\u00e2nt gynnwys\u2014<\/p>\n<p>(a) darpariaeth sy&#8217;n atal y gofyniad neu&#8217;r hysbysiad dros dro wrth aros i&#8217;r ap\u00eal ddod i ben;<\/p>\n<p>(b) darpariaeth am bwerau&#8217;r tribiwnlys yr apelir iddo;<\/p>\n<p>(c) darpariaeth am sut y mae adennill unrhyw swm sy&#8217;n daladwy yn unol \u00e2 phenderfyniad gan y tribiwnlys hwnnw.<\/p>\n<p>(4) Mae&#8217;r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3) (b) yn cynnwys darpariaeth sy&#8217;n rhoi i&#8217;r tribiwnlys yr apelir iddo b\u0175er\u2014<\/p>\n<p>(a) i dynnu&#8217;r gofyniad neu&#8217;r hysbysiad yn \u00f4l;<\/p>\n<p>(b) i gadarnhau&#8217;r gofyniad neu&#8217;r hysbysiad;<\/p>\n<p>(c) i gymryd y camau y gallai&#8217;r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas \u00e2&#8217;r weithred neu&#8217;r anwaith sy&#8217;n arwain at y gofyniad neu&#8217;r hysbysiad;<\/p>\n<p>(d) i anfon y penderfyniad ynghylch p&#8217;un ai i gadarnhau&#8217;r gofyniad neu&#8217;r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r penderfyniad hwnnw, yn \u00f4l i&#8217;r awdurdod gorfodi;<\/p>\n<p>(e) i ddyfarnu costau.<br \/>\nCyhoeddusrwydd am osod cosbau sifil<\/p>\n<p>16 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy&#8217;n galluogi awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd cosb sifil arno yn unol \u00e2 rheoliadau o dan yr Atodlen hon.<\/p>\n<p>(2) Mae \u201chysbysiad cyhoeddusrwydd\u201d yn hysbysiad sy&#8217;n ei gwneud yn ofynnol i&#8217;r person roi cyhoeddusrwydd\u2014<\/p>\n<p>(a) i&#8217;r ffaith bod y gosb sifil wedi ei gosod, a<\/p>\n<p>(b) i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y rheoliadau,<\/p>\n<p>mewn unrhyw ffordd a bennir yn yr hysbysiad.<\/p>\n<p>(3) Caiff y rheoliadau ddarparu i hysbysiad cyhoeddusrwydd\u2014<\/p>\n<p>(a) pennu amser i gydymffurfio \u00e2&#8217;r hysbysiad, a<\/p>\n<p>(b) ei gwneud yn ofynnol i&#8217;r person y rhoddir ef iddo roi tystiolaeth i&#8217;r awdurdod gorfodi ei fod wedi cydymffurfio erbyn yr amser a bennir yn yr hysbysiad.<\/p>\n<p>(4) Caiff y rheoliadau ddarparu, os bydd person yn methu \u00e2 chydymffurfio \u00e2 hysbysiad cydymffurfio, bod awdurdod gorfodi yn cael\u2014<\/p>\n<p>(a) rhoi cyhoeddusrwydd i&#8217;r wybodaeth y mae&#8217;n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a<\/p>\n<p>(b) adennill costau gwneud hynny oddi wrth y person hwnnw.<br \/>\nPersonau sy&#8217;n agored i gosbau sifil<\/p>\n<p>17Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am y personau sy&#8217;n agored i gosbau sifil o dan yr Atodlen hon a ch\u00e2nt (ymhlith pethau eraill) ddarparu\u2014<\/p>\n<p>(a) i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn ogystal \u00e2&#8217;r corff corfforaethol ei hun, a<\/p>\n<p>(b) i bartneriaid partneriaeth fod yn atebol yn ogystal \u00e2&#8217;r bartneriaeth ei hun,<\/p>\n<p>yn yr amgylchiadau a bennir.<br \/>\nCanllawiau ynghylch defnyddio cosbau sifil<\/p>\n<p>18 (1) Pan fo p\u0175er yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas \u00e2 thoriad o reoliadau o dan yr Atodlen hon, rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sy&#8217;n rhoi&#8217;r p\u0175er sicrhau bod\u2014<\/p>\n<p>(a) rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am ddefnydd yr awdurdod gorfodi o&#8217;r gosb sifil,<\/p>\n<p>(b) rhaid i&#8217;r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,<\/p>\n<p>(c) rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi adolygu&#8217;r canllawiau pan fo hynny&#8217;n briodol,<\/p>\n<p>(d) rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi ymgynghori \u00e2&#8217;r bobl a bennir yn y ddarpariaeth cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau wedi eu hadolygu, ac<\/p>\n<p>(e) rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi roi sylw i&#8217;r canllawiau neu i&#8217;r canllawiau wedi eu hadolygu wrth arfer swyddogaethau&#8217;r awdurdod gorfodi.<\/p>\n<p>(2) Yn achos canllawiau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) (b) yw gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) yr amgylchiadau pryd y mae&#8217;r gosb yn debygol o gael ei gosod,<\/p>\n<p>(b) yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gosb,<\/p>\n<p>(c) swm y gosb,<\/p>\n<p>(d) sut y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o&#8217;r gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac<\/p>\n<p>(e) hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.<\/p>\n<p>(3) Yn achos canllawiau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gofyniad yn \u00f4l disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) (b) yw gwybodaeth am\u2014<\/p>\n<p>(a) yr amgylchiadau pryd y mae&#8217;r gofyniad yn debygol o gael ei osod,<\/p>\n<p>(b) yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gofyniad,<\/p>\n<p>(c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae&#8217;n debygol y c\u00e2nt eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo hynny&#8217;n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am fethu \u00e2 chydymffurfio) , a<\/p>\n<p>(d) hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.<br \/>\nCyhoeddi camau gorfodi<\/p>\n<p>19 (1) Pan fo p\u0175er yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas \u00e2 thorri rheoliadau diogelwch, rhaid i&#8217;r ddarpariaeth sy&#8217;n rhoi&#8217;r p\u0175er, yn ddarostyngedig i&#8217;r paragraff hwn, sicrhau bod rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi gyhoeddi adroddiadau o bryd i&#8217;w gilydd sy&#8217;n pennu\u2014<\/p>\n<p>(a) yr achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil, a<\/p>\n<p>(b) pan fo&#8217;r gosb yn gosb ariannol benodedig, yr achosion pryd y rhyddhawyd yr atebolrwydd i dalu&#8217;r gosb yn unol \u00e2 pharagraff 3 (1) (b) .<\/p>\n<p>(2) Yn is-baragraff (1) (a) , nid yw&#8217;r cyfeiriad at achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil yn cynnwys achosion pan fo&#8217;r gosb sifil wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar ap\u00eal.<\/p>\n<p>(3) Nid oes angen i&#8217;r ddarpariaeth sy&#8217;n rhoi&#8217;r p\u0175er sicrhau&#8217;r canlyniad yn is-baragraff (1) mewn achosion pan fo&#8217;r awdurdod perthnasol yn ystyried y byddai&#8217;n anaddas i wneud hynny.<br \/>\nCydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiol<\/p>\n<p>20Rhaid i awdurdod gorfodi weithredu yn unol \u00e2&#8217;r egwyddorion a ganlyn\u2014<\/p>\n<p>(a) dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu cyflawni mewn ffordd sy&#8217;n dryloyw, atebol, cymesur a chyson;<\/p>\n<p>(b) dim ond at achosion pryd y mae angen camau gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.<br \/>\nAdolygu<\/p>\n<p>21 (1) Rhaid i Weinidogion Cymru yn unol \u00e2&#8217;r paragraff hwn adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth a wnaed ganddynt i roi p\u0175er i awdurdod gorfodi (gan eu cynnwys hwy eu hunain) osod cosb sifil mewn perthynas \u00e2 thorri rheoliadau diogelwch.<\/p>\n<p>(2) Rhaid i&#8217;r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo&#8217;n ymarferol ar \u00f4l diwedd y cyfnod o dair blynedd sy&#8217;n dechrau ar y diwrnod pryd y daw&#8217;r ddarpariaeth i rym.<\/p>\n<p>(3) Rhaid i&#8217;r adolygiad ystyried yn benodol a yw&#8217;r ddarpariaeth wedi rhoi ei hamcanion ar waith yn effeithlon ac yn effeithiol.<\/p>\n<p>(4) Wth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori \u00e2&#8217;r personau y mae&#8217;n briodol yn eu barn hwy i ymgynghori \u00e2 hwy.<\/p>\n<p>(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn.<\/p>\n<p>(6) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adolygiad o dan y paragraff hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.<br \/>\nAtal dros dro<\/p>\n<p>22 (1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud darpariaeth sy&#8217;n rhoi p\u0175er i awdurdod gorfodi heblaw hwy eu hunain i osod cosb sifil mewn perthynas \u00e2 thorri rheoliadau diogelwch, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo&#8217;r awdurdod gorfodi\u2014<\/p>\n<p>(a) pan fo&#8217;r p\u0175er yn b\u0175er i osod cosb ariannol benodedig, i beidio \u00e2 chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3 (1) (a) mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw;<\/p>\n<p>(b) pan fo&#8217;r p\u0175er yn b\u0175er i osod gofyniad yn \u00f4l disgresiwn, i beidio \u00e2 chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 (1) (a) mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw;<\/p>\n<p>(c) pan fo&#8217;r p\u0175er yn b\u0175er i osod hysbysiad stop, i beidio \u00e2 chyflwyno unrhyw hysbysiadau stop pellach mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw;<\/p>\n<p>(d) pan fo&#8217;r p\u0175er yn b\u0175er i dderbyn ymgymeriad gorfodi, i beidio \u00e2 derbyn unrhyw ymgymeriad pellach mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw.<\/p>\n<p>(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas \u00e2 thorri rheoliadau diogelwch os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi methu ar fwy nag un achlysur\u2014<\/p>\n<p>(a) \u00e2 chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon neu yn ei rhinwedd mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw,<\/p>\n<p>(b) \u00e2 gweithredu yn unol \u00e2&#8217;r canllawiau a gyhoeddodd o dan baragraff 18 mewn perthynas \u00e2 thoriad o&#8217;r math hwnnw, neu<\/p>\n<p>(c) \u00e2 gweithredu yn unol \u00e2&#8217;r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 20 neu egwyddorion eraill o arferion gorau mewn perthynas \u00e2 gorfodi&#8217;r gyfraith o ran toriad o&#8217;r math hwnnw.<\/p>\n<p>(3) Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd ddirymu cyfarwyddyd a roddir ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi cymryd y camau priodol i unioni&#8217;r methiant yr oedd y cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.<\/p>\n<p>(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori\u2014<\/p>\n<p>(a) \u00e2&#8217;r awdurdod gorfodi, a<\/p>\n<p>(b) ag unrhyw bersonau eraill y mae&#8217;n briodol ymgynghori \u00e2 hwy yn eu barn hwy.<\/p>\n<p>(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<p>(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi\u2014<\/p>\n<p>(a) cyhoeddi&#8217;r cyfarwyddyd mewn ffordd sy&#8217;n briodol yn marn Gweinidogion Cymru, a<\/p>\n<p>(b) cymryd unrhyw gamau eraill sy&#8217;n briodol ym marn yr awdurdod gorfodi neu y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol er mwyn dwyn y cyfarwyddyd at sylw personau eraill y mae&#8217;n debygol y bydd yn effeithio arnynt.<br \/>\nTalu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru<\/p>\n<p>23Pan fo awdurdod gorfodi heblaw Gweinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon, yn cael\u2014<\/p>\n<p>(a) cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio \u00e2 chydymffurfio,<\/p>\n<p>(b) unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu&#8217;r cyfryw gosb yn hwyr, neu<\/p>\n<p>(c) swm a delir er mwyn i berson ei ryddhau ei hun o&#8217;r atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig,<\/p>\n<p>rhaid i&#8217;r awdurdod gorfodi ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.\u201d.<\/p>\n<div class=\"social-share-buttons\"><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/sharer\/sharer.php?u=https:\/\/laweuro.com\/?p=8601\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Facebook<\/a><a href=\"https:\/\/twitter.com\/intent\/tweet?url=https:\/\/laweuro.com\/?p=8601&text=Mesur+Diogelwch+ar+Gludiant+i+Ddysgwyr+%28Cymru%29+2011\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Twitter<\/a><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/shareArticle?url=https:\/\/laweuro.com\/?p=8601&title=Mesur+Diogelwch+ar+Gludiant+i+Ddysgwyr+%28Cymru%29+2011\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">LinkedIn<\/a><a href=\"https:\/\/pinterest.com\/pin\/create\/button\/?url=https:\/\/laweuro.com\/?p=8601&description=Mesur+Diogelwch+ar+Gludiant+i+Ddysgwyr+%28Cymru%29+2011\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pinterest<\/a><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 2011 mccc 6 Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion&hellip;<\/p>\n<p class=\"more-link-p\"><a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/laweuro.com\/?p=8601\">Read more &rarr;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[14],"tags":[],"class_list":["post-8601","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-eu-legislation-and-uk-law"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/8601","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=8601"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/8601\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8751,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/8601\/revisions\/8751"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=8601"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=8601"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/laweuro.com\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=8601"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}